Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel |
|
|
|||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 19 Mawrth 2018 |
|
||||
Amser: |
12.35 - 13.50 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Elin Jones AC (Cadeirydd) Suzy Davies AC Caroline Jones AC Adam Price AC Joyce Watson AC |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.1 Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
1.2 Datganiadau o fuddiant
Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
1.3 Cofnodion o’r cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Chwefror.
2 Penodi Cynghorwyr Annibynnol newydd ar gyfer y Comisiwn
Ystyriodd y Comisiynwyr gynigion ar gyfer recriwtio a dethol carfan newydd o Gynghorwyr Annibynnol yn 2018 a 2019, wrth baratoi ar gyfer diwedd y trefniadau presennol.
Mae Cynghorwyr Annibynnol y Comisiwn yn gweithredu mewn rôl anweithredol ac anwleidyddol, gan roi cyngor a her adeiladol i Gomisiynwyr ac uwch reolwyr ar sawl agwedd ar fusnes y Comisiwn. Mae tri Chynghorydd Annibynnol, ynghyd ag un Comisiynydd yn aelodau o ACARAC ac mae Bwrdd Taliadau’r Comisiwn hefyd yn cynnwys tri Chynghorydd.
Cytunodd y Comisiynwyr ar y cynigion recriwtio, gyda’r broses recriwtio a dethol i gael ei rheoli’n fewnol, a chan ddefnyddio asiantaeth chwilio weithredol i nodi ymgeiswyr ar gyfer y cam rhestr hir.
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am yr Adolygiad Capasiti
Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Comisiynwyr. Mae Grŵp Llywio wedi’i ffurfio i ddatblygu argymhellion yr Adolygiad. Roedd swyddogion hefyd wedi cynnal cyfres o weithdai staff i drafod yr Adolygiad a’r gwaith parhaus sy’n digwydd, a chafwyd adborth cadarnhaol gan staff bod y rhain wedi bod yn ddiddorol.
Rhoddwyd gwybod i’r Comisiynwyr hefyd am y newidiadau a wneir i strwythurau uwch reolwyr, gyda’r Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau yn dod yn Fwrdd Gweithredol (gwneud penderfyniadau), a’r Bwrdd Rheoli yn cael ei ailgyfansoddi fel Tîm Arweinyddiaeth. Rhoddwyd gwybod i’r Comisiynwyr hefyd y byddai trefniadau dros dro i ymdrin â chyfrifoldebau ar lefel Cyfarwyddwr ar ymadawiad Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad.
Nododd y Comisiynwyr yr adroddiad.
4 Diwrnod cwrdd i ffwrdd ar Strategaeth y Comisiwn
Fel rhan o gylch cynllunio diwygiedig y Comisiwn, cytunodd y Comisiynwyr y byddai’n ddefnyddiol parhau â’r dull a ddefnyddiwyd y llynedd, sef cynnal gweithdy nodi strategaeth flynyddol mewn diwrnod cwrdd i ffwrdd.
5 Papurau i’w nodi:
5.1 Diweddariad y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau
Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf gan y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau.
5.2 Gweinyddu Cynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad - Adroddiad archwilio
Derbyniodd y Comisiynwyr yr adroddiad archwiliad mewnol o Gynllun Pensiwn yr AC, a’i nodi. Mae’r archwiliad wedi cofnodi graddfa barn sicrwydd sylweddol sy’n golygu, ar sail canlyniadau’r gwaith a wneir, fod yr Archwiliad Mewnol yn dod i’r casgliad bod fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth y Cynllun yn ddigonol ac yn effeithiol.
6 Unrhyw fater arall
· Caffael y Comisiwn - Bu’r Comisiynwyr yn trafod caffael gan gyflenwyr o Gymru a chytunodd i gyflwyno Dangosydd Perfformiad Allweddol penodol ar gaffael gan gyflenwyr o Gymru. Cytunwyd hefyd i ystyried y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol, a gofynnwyd am bapur ar y trefniadau caffael presennol o ran cyflenwyr o Gymru, a pha opsiynau sydd ar gael i wella perfformiad.
· Chwythu’r Chwiban - Gofynnodd Joyce Watson a allai’r Comisiwn wneud rhywfaint o waith codi ymwybyddiaeth o bolisïau a gweithdrefnau chwythu’r chwiban. Cytunodd y Comisiwn y byddai’n briodol ei gynnwys yn y pecyn gwaith a wneir yn ystod ein hwythnos cydraddoldeb, sy’n debygol o fod ym mis Mehefin neu fis Gorffennaf.
· Ymweliad â’r Senedd Fflemig - Cytunodd y Comisiwn i dderbyn y gwahoddiad gan y Llefarydd Jan Peumans, i ymweld â’r Senedd Fflemig ym mis Mehefin 2018, yn amodol ar fod cynrychiolwyr ar gael.
· Mynediad i goridor llawr gwaelod TŷHywel - Nodwyd cwynion gan yr Aelodau ynghylch y cyfyngiadau ar y mynediad i goridor bloc B ar y llawr gwaelod. Roedd y rhain wedi eu rhoi yn wreiddiol mewn ymateb i bryderon ynghylch diogelwch a tharfu ar gyfarfodydd pwyllgor. Trafododd y Comisiynwyr y mater, a daeth i’r casgliad y dylid codi’r cyfyngiadau fel bod y coridor yn agored i’w ddefnyddio, ac y a dylid atgoffa defnyddwyr i fod yn dawel er mwyn osgoi tarfu ar gyfarfodydd.
Roedd Joyce Watson am gofnodi ei diolch i bawb a fu’n rhan o’r digwyddiad ‘I am Embolden’, a oedd yn dathlu llwyddiannau menywod byddar ac anabl yng Nghymru.